Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

 

Pwynt Craffu Technegol:

Rydym yn nodi ac yn derbyn y pwynt technegol ynghylch y diffyg cyfeiriad mewn troednodyn at y dehongliad o “regulations” yn adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, er mwyn cadarnhau bod y pwerau galluogi y dibynnir arnynt yn perthyn i Weinidogion Cymru. Bwriadwn gywiro hyn drwy slip cywiro.

 

Pwyntiau Craffu ar Rinweddau:

Y dyletswyddau a osodir gan y rheoliadau yw’r dyletswyddau cyntaf yn ymwneud â’r Gymraeg i fod yn gymwys i ddarparwyr gofal sylfaenol annibynnol. Maent yn wahanol i Safonau’r Gymraeg sy’n gymwys i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG, a ddisodlodd drefn flaenorol y Cynlluniau Iaith. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff cymwys sy’n cynrychioli’r darparwyr gofal sylfaenol annibynnol, ac wedi gohebu â hwy, er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o natur a rhychwant y dyletswyddau a ymgorfforir yn y telerau contract/cytundeb/gwasanaeth gan y rheoliadau, ac y bydd y dyletswyddau hynny yn gymwys o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym. Rydym wedi ymgysylltu a gohebu â’r Byrddau Iechyd Lleol ynglŷn â’r dyletswyddau hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon, felly, fod y cyrff perthnasol yn gwybod nad yw’r dyletswyddau wedi eu cyfyngu i drefniadau newydd, yr ymrwymir iddynt ar ôl y dyddiad y daw’r rheoliadau i rym.